Ann Jones AC
Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
18 Mehefin 2013
Annwyl Ann,
Fel y gwyddoch, clywodd y Pwyllgor Cyllid dystiolaeth gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, yn ein cyfarfod ar 12 Mehefin, pan fuom yn ystyried rhai o'r materion ariannol yng nghyswllt y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru).
Er ein bod wedi’n hargyhoeddi fod angen deddfwriaeth i ddychwelyd y sector i ddosbarthiad gwreiddiol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gennym bryderon o hyd ynghylch bwriad y Gweinidog mewn cysylltiad â rheolaethau anneddfwriaethol ar y sector. Dywedodd y Gweinidog, ‘We may need to look at the financial memorandum and conditions of funding’, a chytunodd i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor Cyllid; dywedodd: ‘The key element will be around borrowing.’
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn argymell y dylai’r Gweinidog a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol sicrhau eu bod yn cytuno ar ddiffiniad o ‘reolaethau anrheoliadol’ er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn cyflawni’r diben a fwriadwyd.
Diolch am fy ngwahodd i ddod i sesiwn o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wrth ichi ddod i ddiwedd eich trafodaethau ar y bil.
Yn gywir
Jocelyn Davies AC
Jocelyn Davies AM